Croeso - Welcome
Croeso i Argraffwyr Aberystwyth......
Sefydlwyd Argraffwyr Aberystwyth yn 2004 gan grŵp o artistiaid sy’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau argraffu yn eu gwaith.
Prif nod y grŵp, sydd â thua 50 o aelodau ar hyn o bryd, yw hyrwyddo gwneud printiau trwy sgyrsiau, arddangosiadau ac arddangosfeydd o'u gwaith a thrwy ddarparu cyfleusterau gweithdy gwneud printiau.
Mae gan ein gweithdy argraffu, a leolir ym Mhenrhyn-coch ar Gampws IBERS ger Aberystwyth, gyfleusterau da ar gyfer ysgythru, argraffu cerfwedd a lithograffi. Mae'r gweithdy'n darparu sesiynau gweithdy agored dan oruchwyliaeth i bob aelod cofrestredig.
Mae’r grŵp hefyd yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau rhagarweiniol ar y rhan fwyaf o dechnegau gwneud printiau dan arweiniad gwneuthurwyr printiau sy’n adnabyddus yn rhyngwladol. Mae’r grŵp wedi arddangos yn eang ledled Cymru, Lloegr a’r Alban ac yn UDA, Awstralia, Seland Newydd, Hong Kong a Tsieina.
Mae arddangosfeydd diweddar yn cynnwys cydweithrediad â gwyddonwyr yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth ‘The Miscanthus Project’, ‘Aberystwyth Printmakers in the City’ yn y Royal Birmingham Society of Artists a'r Bestiary Book mewn cydweithrediad â Chyngor Print Seland Newydd.
Yng ngwanwyn 2024 bydd y grŵp yn cynnal eu harddangosfa 20fed pen-blwydd yng Nghanolfan Gelf Canolbarth Cymru, Caersws ger y Drenewydd.
Every month: FIRST Saturday 10 am–1 pm and THIRD Tuesday 6–9 pm
Meet other printmakers, learn from each other and from our tutors.
Each session will start with a 1 hour demonstration followed by 2 hours to explore the technique. You are also welcome to bring current work and ask for help and advice.
The sessions are hosted by experienced printmakers demonstrating a wide variety of techniques. Most materials are provided. View our Shop page for upcoming sessions and to book your place.